Dyframaeth
Mae Grŵp Gwyddor Môr y Bont yn un o brif arbenigwyr y DU ar ymgynghori dyframaeth. Mae’n harbenigedd masnachol a gwyddonol yn hybu cynnyrch cynaladwy a rheolaeth pysgodfeydd pysgod cregyn a physgod asgellog. Mae hyn yn cynnwys datblygiad dyframaeth masnachol mewn nifer o gynefinoedd tymherus a throfannol, dŵr croyw a dŵr y môr. Mae’n harbenigwyr ar bysgodfeydd yn darparu a chynghori sut mae monitro a gwerthuso pysgodfeydd, asesu a chyfoethogi stoc. Maent hefyd yn cynnig polisi pysgodfeydd ar gyfer pysgodfeydd crefftwrol, diwydiannol, arfordirol a chefnforol ledled y byd.
Mae’n gwybodaeth allweddol a setiau sgiliau yn cynnwys:
- Astudiaethau dichonoldeb dyframaeth
- Dadansoddiad stoc gwaed genetig
- Cewyll môr, a chynllun fferm ac adeiladwaith wedi’i seilio ar y tir
- Gweithredu a rheoli fferm
- Gwasanaeth cynghori ar offer ffermio a pheiriannau prosesu
- Technegau rheoli gwastraff dyframaeth
- Datblygu system cynhyrchu deorfa
- Cynllun deorfa a gwasanaethau rheoli
- Deorfeydd môr addurnol a riffiau cwrel
- Asesu a chyfoethogi stoc pysgodfeydd
- Prosesu
- Polisi ymchwil a datblygu pysgodfeydd
- Asesu marchnadoedd dyframaeth newydd a chyngor strategol
Rydym yn darparu cyngor deinamig ar bob maes ar gyfer unrhyw fusnes dyframaeth masnachol. Deillia hyn o gefndiroedd academaidd a masnachol blaengar, i gyfoethogi mewn modd dramatig eich prosesau masnachu, gwyddor môr ac i roi i’ch busnes linell isaf ehangach, cyngor strategol ar lifoedd arian newydd a mantais yn y farchnad.








