Tel: +44 (0)1248 718010
Arwyddwch i dderbyn ein cylchlythyr sy’n RHAD AC AM DDIM
Enw:
E-bost:

DIGWYDDIADAU GRŴP GWYDDOR MÔR Y BONT (BMSG)

Mae Rhwydweithio Busnes yn cynnig i chi gysylltiadau amhrisiadwy a fydd yn rhoi hwb dramatig i’ch cwmni, beth bynnag fo ei faint neu ei drosiant. Ein strategaeth ni yng Ngrŵp Gwyddor Môr y Bont yw cynnig nifer o’r digwyddiadau hyn drwy’r flwyddyn gan gynnwys brecwast busnes, cynadleddau a seminarau. Credwn yn gryf y bydd y digwyddiadau hyn yn rhyddhau eich amser, yn gostwng eich costau cyffredinol ac yn agor drysau i lwyddiant mawr mewn cymuned sydd â chyfleoedd byd-eang. Mae pob un o’r digwyddiadau rhwydweithio yn gyfyngedig i aelodau clwstwr Grŵp Gwyddor Mor y Bont. Ewch i’n tudalen Aelodaeth i ddechrau mwynhau manteision llawn.

Rhwydweithio Busnes

Cynhelir y digwyddiadau hyn yn rheolaidd mewn gwahanol fannau o amgylch Gogledd Cymru ac maent yn caniatáu i chi wneud cysylltiadau di-ben-draw, tra ar yr un pryd yn ennill persbectif cyfannol o’ch cymuned leol, cwsmeriaid posibl a darparwyr gwasanaeth. Sicrhawn fod y digwyddiadau busnes wedi’u canolbwyntio ar y gymuned forol ac na fyddant yn caniatáu aelodau y tu allan i’r clwstwr i dynnu eich sylw drwy eich peledu â gwasanaethau busnes.

Mae gan bob digwyddiad busnes siaradwr o’r gymuned wyddonol leol, ac rydym yn rhoi gwybod i’n haelodau am bob un o’r digwyddiadau mae Grŵp Gwyddor Môr y Bont yn eu trefnu gan gynnwys cyfleoedd gwaith sydd ar ddod a’r datblygiadau diweddaraf ym myd gwasanaeth ac offer sy’n berthnasol i’r sector. Rhoir gwybod i bob un o aelodau’r clwstwr am y digwyddiadau hyn drwy Facebook ac mae aelodau Cysylltiol yn cael mynediad AM DDIM i’r digwyddiadau hyn ar sail chwarterol.

Cynadleddau

Mae Grŵp Gwyddor Môr y Bont yn cynnig nifer o gynadleddau penodol i’r diwydiant a sioeau masnach bob blwyddyn. Mae’r hawl i Aelodaeth Gysylltiol yn RHAD AC AM DDIM i un gynhadledd y flwyddyn.

Darlithoedd Prifysgol

Mae Grŵp Gwyddor Môr y Bont yn ymweld â nifer o sefydliadau lleol i sicrhau fod pob un o’r gwyddonwyr lleol yn ymwybodol o’r gwasanaethau rydym yn eu cynnig a sut y gallem eu helpu ar hyd eu llwybr gyrfaol dewisedig. Gall hyn ddigwydd drwy ddod o hyd i gyflogaeth oddi fewn i’r gymuned Forol Fyd-eang neu drwy weithio gyda’n Ymgynghorwyr i’w cynorthwyo i ddechrau eu busnes eu hun yn llwyddiannus. I ddarganfod mwy ewch i’n tudalen cynorthwyo busnes.

Fersiwn hwylus i’w hargraffu

Liverpool Chamber of Commerce
Please Join our FaceBook Group