Parth Arfordirol Integredig a Rheoli Adnoddau
Gyda dros ugain mlynedd o brofiad o weithio mewn amgylcheddau arfordirol ac ar y môr yn y DU a thrwy’r byd, mae Grŵp Gwyddor Môr y Bont yn darparu gwasanaethau ymgynghorol amlddisgyblaeth a gwasanaethau ymgynghori integredig. Mae’r rhain wedi canolbwyntio yn benodol ar yr angen am ddefnydd cynaladwy o adnoddau arfordirol y byd.
Mae tîm profiadol rhyngwladol Grŵp Gwyddor Môr y Bont o ymgynghorwyr yn darparu medr cynhwysfawr i hybu datblygiad cynaladwy adnoddau arfordirol. Rydym yn cyflawni hyn drwy fynd ati i ddefnyddio dull cytbwys a ffordd integredig i:
- Wneud y defnydd gorau o adnoddau
- Rheoli cynaladwy o brosesau ecolegol allweddol
- Rheoli cynaladwy o gynnyrch ac amrywiaeth biolegol ecosystemau yr arfordir
- Cryfhau rheolaeth sectoraidd ac integredig adnoddau’r arfordir drwy werthuso, adeiladu cynhwysedd sefydliadol, hyfforddi a datblygiad polisi/ deddfwriaeth
Mae Gwrp Gwyddor Môr y Bont wedi cwblhau prosiectau rheoli’r arfordir yn y DU, gwledydd Ewropeaidd eraill, Asia, yr Affrig, y Caribî a’r Dwyrain Canol.
Mae gan Grŵp Gwyddor Môr y Bont wybodaeth fanwl am bwysau datblygu cymdeithasol economaidd yr arfordir, rheoliadau amgylcheddol a blaenoriaethau cadwraeth. Wedi’u hintegreiddio gyda’n gwyddoniaeth, a’n rhaglenni rheoli prosiect a rhaglenni rheoli morol, mae Grŵp Gwyddor Môr y Bont yn cynnig atebion arloesol, cost effeithiol ond uwchlaw pob dim, atebion ymarferol.
Gwasanaethau Grŵp Gwyddor Môr y Bont:
- Rheolaeth Integredig ar Barthau Arfordirol (ICZM)
- Prosiect dylunio, cynllunio a rheoli Rheolaeth Integredig ar Barthau Arfordirol
- Monitro, gwerthuso effaith a mesuryddion Rheolaeth Integredig ar Barthau Arfordirol
- Datblygiad strategol Rheolaeth Integredig ar Barthau Arfordirol
- Ymgynghoriaeth a dadansoddiad rhanddeiliaid Rheolaeth Integredig ar Barthau Arfordirol
- Asesiadau strategol arfordirol
- Asesiadau rheoli sectoraidd arfordirol
- Rheoli a chynllunio cadwraeth arfordirol
- Gwerthuso a chynllunio adnoddau arfordirol
- Asesiadau adnoddau naturiol
- Systemau gwybodaeth rheoli arfordirol
- Asesiadau cymdeithasol economaidd a diwylliannol
- Mapio ac asesu sensitifrwydd arfordirol
- Asesiadau a chynlluniau arfordirol traws genedlaethol
- Cynllun wrth gefn arfordirol
- Cryfhau sefydliadol ac adeiladu cymhwysedd
- Asesiadau a datganiadau effaith arfordirol
- Paratoi prosiect aml gymorth a chymorth dwyochrog, a chynnal cenhadu








