Tel: +44 (0) 1248 718 010
Grŵp Gwyddor Môr y Bont
Mae Grŵp Gwyddor Môr y Bont yn gorfforaeth annibynnol, di-elw sy’n darparu arbenigedd gwyddor môr byd eang. Rydym yn canolbwyntio ar gynnig gwasanaethau morol ac amgylcheddol o ansawdd da ar y llwyfan rhyngwladol ac yn ateb anghenion sefydliadau a busnesion byd eang.
Rydym yn cyflawni’r amcanion hyn drwy
- Roi ar waith wyddoniaeth o’r ansawdd gorau am y pris mwyaf cost effeithiol tra’n cefnogi pobl, sefydliadau a pholisi i gynhyrchu canlyniadau cadarnhaol i’n cwsmeriaid.
- Fabwysiadu gwybodaeth arbenigol a defnyddio profiad penodol ein diwydiant a gasglwyd ar rai o brosiectau mwyaf deinamig y byd.
- Ddeall fod cydweithio mewn rhai meysydd cymhleth mewn gwyddoniaeth yn hanfodol.
- Ddefnyddio llawer o arbenigwyr penna’r byd i greu a chyflenwi atebion pwrpasol a rheoli prosiectau i’r safon byd eang gorau.
- Ddiweddaru bob amser ein gwybodaeth ein hunain a’n setiau sgiliau gyda’r wybodaeth ddiweddaraf.
Rydym yn deall cymhlethdod amgylchedd morol a’r ffaith fod anghenion pob cwsmer yn wahanol. Os oes gennych gwestiwn cysylltwch â ni, os gwelwch yn dda, ac fe wnawn ein gorau i ateb yn brydlon, ac wedi’n harwain gan agwedd sy’n cynnig ateb ymarferol.








