Trosolwg
Mae Grŵp Gwyddor Môr y Bont yn sylweddoli mai graddedigion yw anadl einioes ein sector ni. Fel Graddedigion Gwyddor y Môr a Gwyddorau’r Ddaear byddwch yn ymwybodol iawn o broblemau amgylcheddol ein hoes, o Newid yn yr Hinsawdd i’r cwymp yn y stoc o bysgod yn y gwyllt, diraddiad y riffiau cwrel ac ar yr olwg gyntaf dinistr didostur bywoliaeth ar yr arfordir ledled y byd.
Am y rhesymau hyn rydym yn sylweddoli pwysigrwydd o gadw sgiliau graddedigion yn y sector bwysig hon. Yn hyn o beth mae Grŵp Gwyddor Môr y Bont yn sefyll ar y rhyngwyneb rhwng y byd academaidd a diwydiant ac rydym yn ymdrechu, drwy ein gweithgaredd dyngarol i:
- Ddatblygu talentau'r graddedigion ifanc a chreu cyfleoedd gwaith iddynt.
- Gynorthwyo gyda lleoliadau myfyrwyr / graddedigion oddi fewn i’r busnes gwyddor y môr a sefydliadau eraill.
- Ddarparu cefnogaeth arbenigol i raddedigion MSc a PhD sy’n ystyried sefydlu ymgynghoriaeth neu fusnes gwyddor y môr.
Ar adeg pan mae’r hil ddynol yn edrych fwyfwy tua’r môr am adnoddau naturiol, rydym angen cadw ac annog talentau’r genhedlaeth nesaf i fynd i’r afael â diffinio problemau amgylcheddol ein hoes.
(cliciwch yma ar gyfer matrics sgiliau)








